Dyma'r hen addewid hyfryd

Dyma'r hen addewid hyfryd,
  A 'sigodd siol
      y sarph yn friw;
Cawd trag'wyddol fuddugoliaeth
  Ar farwolaeth trwy Fab Duw:
Ym mhob lo's ddydd a nos,
Fy enaid cān
    am waed y gro's.

O fy enaid gwel dy Feddyg,
  Yn archolledig yn dy le;
Fy nhrag'wyddol feddyginiaeth
  Red o'i glwyfau mawrion e':
O's ca' fyw rhyfedd yw,
I drag'wyddoldeb gyda Duw.

Er nad wyf ond eiddil heddyw,
  Gad im' roddi pwys fy mhen
Ar y Cyfaill, heb dddiffygio,
  Sy'n fy nghofio uwch y nen;
Ei glwyfau e' yw fy lle,
Dyma'm noddfa fyth a'm ne'.

P'odd y gallaf lai na chanu,
  Am rinweddol waed y groes;
Dyma mywyd a fy iechyd,
  Sy'n pereiddio dyddiau 'oes:
Digon yw i mi Dduw,
Ym mhob cyflwr tra f'wyf byw.
Morgan Rhys 1716-79
Golwg o Ben Nebo 1764
p.1: ? Dafydd Jones 1711-77

[Mesur: 8787337]

gwelir:
  O na fyddwn ysbryd heddyw
  Wele cawsom y Messia

Here is the delightful old promise,
  That struck and bruised
      the serpent's head;
An eternal victory was got
  Over death through the Son of God:
In every anguish, day and night,
My soul shall sing
    about the blood of the cross.

O my soul, see thy Physician,
  Wounded in thy place;
My eternal medication
  Runs from his great wounds:
If I get to live, wonderful it is,
For an eternity with God.

Although I am only feeble today,
  Let me lean my head
On the Friend, without failing,
  Who remembers me above the sky;
His wounds are my place,
Here is my refuge forever and my heaven.

How can I do any less than sing,
  About the virtuous blood of the cross?
Here is my life and my health,
  Which sweeten the days of my age:
Sufficient for me is God,
In every condition while ever I live.
tr. 2023 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~